Croeso i Gŵyl Caerdydd 2011!


CANFOD ‘PRYD O BYSGOD’!
Gŵyl Harbwr Caerdydd


Grand Medieval Mêlée

Bae Caerdydd yw’r lle i fod unwaith eto yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc mis Awst wrth i Ŵyl yr Harbwr ddychwelyd eto eleni.

Ymysg uchafbwyntiau gŵyl eleni fydd cerddwyr awyrennau Breitling Wing a fydd yn hedfan dros Fae Caerdydd ddydd Sul am 12pm a dydd Llun am 4.30pm.

Mwy yma

Mardi Gras LGBT Caerdydd Cymru
3 Medi 2011
Cae Coopers, Caerdydd
mwy yma

melee

Cardiff International Paddle Fest
3 Sept 2011
Bae Caerdydd
mwy yma

paddlefest

 


CANFOD ‘PRYD O BYSGOD’!

Dyma’r chweched Ŵyl Caerdydd ar hugain, a bydd yn gyfuniad o ddigwyddiadau celfyddydol, cerddorol a diwylliannol. Byddan nhw’n cael eu cynnal ar hyd a lled y ddinas gydol yr haf; o 30 Mehefin tan 3 Medi eleni.

Bydd grwpiau newydd yma eleni, ynghyd â grwpiau sydd wedi cymryd rhan o’r blaen. Mae gan rai ohonyn nhw enw da ym mhedwar ban byd. Mae Caerdydd yn brifddinas digwyddiadau ac mae Gŵyl Caerdydd yn manteisio i’r eithaf ar gyfleusterau’r ddinas. Bydd y cwbl yn digwydd dan logo eiconig y fefusen – sydd, erbyn hyn, yn gyfystyr â’r haf yn y ddinas.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau eleni yn cynnwys Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd, Picnic yn y Castell a gefnogir gan Brace’s Bread, Penwythnos Mawr Admiral Caerdydd a Gŵyl Harbwr Caerdydd.

Bydd In The Night Garden, un o ffefrynnau’r plant, yn cael ei berfformio mewn theatr dros dro. Bydd y theatr dros dro siâp dom ym Mharc hanesyddol Bute.  

Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau godidog, fel y Ganolfan Ddinesig, Castell Caerdydd a Bae Caerdydd.

Mae Gŵyl Caerdydd yn enghraifft wych o sut gall busnesau cyhoeddus a phreifat gydweithio er budd pawb yng Nghaerdydd – boed yn ymwelwyr neu’n drigolion. Mae’r partneriaethau hyn yn ein galluogi i greu rhaglen ddigwyddiadau o safon ryngwladol. Mae  rhai ohonynt yn cael eu hariannu gan Gyngor Caerdydd ac Awdurdod Harbwr Caerdydd, eraill dan nawdd sefydliadau partner.

Mwynhewch!
 
Manylion yn gywir ar adeg cyhoeddi, gall digwyddiadau newid.


ymunwch â'n rhestr bostio

Cardiff Festival 2011