

Mae Coleg Cerdd & Drama Caerdydd yn dychwelyd eleni i gyflwyno'r Fringe yng Ngŵyl Caerdydd. Dyma’ch unig gyfle i weld cip ymlaen llaw o’r sioe cyn iddi fynd i Ŵyl Fringe Caeredin yn hwyrach yn yr haf.
Dydd Mawrth 26 Gorff a dydd Mercher 27 Gorff
9.00pm
Fragments of Ash gan National Theatre Wales mewn cydweithrediad â ‘Murder on the Menu’.
Theatr drydanol, ddeallus, gorfforol: pam fyddai mam yn dod yn hunan-fomwraig? ‘...mae rhagoriaeth a harddwch y darn yn gryf iawn.' (Theatre Wales). Theatr wleidyddol gyda sgôr byw gwreiddiol. ‘...drama newydd wych’ (Savoy Theatre).
Dydd Mawrth 26 Gorff a dydd Mercher 27 Gorff
7.30pm
A Night’s Tale gan 'The Unknown Theatre Company'.
Bydd yr ‘Unknown Theatre Company’ llwyddiannus yn dychwelyd i’r ŵyl gyda stori gerddorol hudolus sy'n addas i bobl 5 i 105 oed.
Nid yw Billy yn credu mewn straeon tylwyth teg, felly pwy neu beth yw’r Pwca,
sy’n eistedd ar erchwyn ei wely?
Dilynwch daith gerddorol Billy wrth iddo ddilyn y Pwca i’r byd arall – byd hudolus o straeon coll. Wrth i fygythiad y gwagle mawr agosáu a oes gan Billy y dewrder a’r dychymyg i achub y byd?
£6 y tocyn
Prynwch o: Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru
Swyddfa Docynnau: 029 2039 1391
Neu anfonwch e-bos boxoffice@rwcmd.ac.uk
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
26 - 27 Gorff 2011
Theatr Bute
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Caerdydd
CF10 3ER
Swyddfa Docynnau
029 2039 1391

