

Mae’r sioe gerdd boblogaidd Grease yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru am bythefnos yn haf 2011.
Tynnwch eich siacedi lledr o gefn y wardrob, ac ewch i chwilio am eich sbectol haul a’ch sanau roc a rôl yn barod am barti mwyaf bywiog y flwyddyn.
Dyma’r sioe gerdd wreiddiol roddodd ddechrau ar sioeau cerdd wedi’i gosod mewn ysgolion uwchradd ac mae’n cynnwys yr holl ganeuon bythgofiadwy o’r ffilm; gan gynnwys You're The One That I Want, Grease Is The Word, Summer Nights, Hopelessly Devoted To You, Sandy, Greased Lightnin' a llawer mwy.
Felly dewch i ymuno â Danny a Sandy, criw grwfi y T-Birds, y Pink Ladies hyderus a’r criw cwl o Rydell High yn y strafagansa mwyaf anhygoel welwch chi ar lwyfan.
Dewch draw i fod yn rhan o’r hwyl, ac fel maen nhw’n dweud yn Rydell High - “be there or be square!”
Canllaw Oed: 6+
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
25 Gorff – 6 Awst 2011
Canolfan Mileniwm Cymru
Caerdydd
CF10 5AL
Llun - Iau a Sad 7.30pm, Gwe 8.30pm, Sad 2.30pm
Tocynnau £15, £20, £27.50, £34, £37.50
Gwe 5.30pm
Tocynnau £11, £16, £21, £25, £29.50
GOSTYNGIADAU: * Llun - Iau (y 3 pris drytaf)
Grwpiau Gostyngiad o £3 i 10+; Gostyngiad o £5 i 20+
Dan 16 \ Myfyrwyr Gostyngiad o £10
Dros 60 \ Digyflog Gostyngiad o £3
Pobl ag Anableddau Gostyngiad o £3
GRWPIAU’N CAEL MWY
Am gynigion lletygarwch a chyfraddau arbennig, ffoniwch
029 2063 6464, opsiwn 4
*Yn amodol ar argaeledd
