Gŵyl Harbwr Caerdydd

Canfod 'Pryd o Bysgod' !

jamie's italian

A ydych chi'n hoff o greu ryseitiau newydd i’ch ffrindiau a’ch teulu? Efallai eich bod yn Gogydd yn y bôn, neu’n gallu coginio bwyd bendigedig.

Os oes gennych hoff rysáit pysgod rydych wedi’i chreu, beth am ei chyflwyno i'n cystadleuaeth Canfod Pryd o Bysgod?  

Cynhelir Gwyl Harbwr Caerdydd dros benwythnos Gwyl y Banc Awst (Awst 27 – 29) ac mae'r trefnydd, Cyngor Caerdydd, yn ymuno â Jamie's Italian yng nghanol y ddinas i lansio cystadleuaeth Canfod Pryd o Bysgod a fydd yn goron ar y fwydlen prydau arbennig – gyda'r saig fuddugol yn cael ei choginio i ymwelwyr â’r Wyl.

Y Wobr

  • Bydd y rysáit fuddugol ar y fwydlen prydau arbennig yn Jamie’s Italian, Canol Dinas Caerdydd
  • Y gwerthwyr pysgod o Ffederasiwn Cenedlaethol y Gwerthwyr Pysgod yn dangos sut i goginio’r rysáit yng Ngŵyl Harbwr Caerdydd
  • Cinio i ddau yn Jamie’s Italian a chopi o lyfr diweddaraf Jamie Oliver
  • Aros dros nos yng ngwesty Future Inns, Bae Caerdydd, yn ystod Gŵyl Harbwr Caerdydd

Sut i gymryd rhan

I ennill y wobr arbennig hon, anfonwch eich rysáit pysgod atom gyda chyfarwyddiadau ar sut i’w choginio erbyn 21 Awst i digwyddiadau@caerdydd.gov.uk neu Awdurdod Harbwr Caerdydd, Tŷ’r Frenhines Alexandra, Cargo Road, Caerdydd, CF10 4LY.

Rheolau/Telerau ac Amodau

  • Mae angen rysáit o naws Eidalaidd, i gyd-fynd â’r fwydlen bresennol.
  • Ni all gynnwys eog, corgimwch, penfras, hadog na thiwna – i gefnogi ymdrech Jamie Oliver i achub rhywogaethau prin y môr.
  • Nodwch nifer y bobl y gellir eu bwydo gyda’ch rysáit.
  • Nodwch beth allai gyd-fynd â’ch pryd o bysgod h.y. pasta, llysiau.
  • Rhaid i’r rysáit ddod gennych chi, neu fod yn ‘rysáit deuluol’ rydych wedi cael caniatâd i’w chynnig yn y gystadleuaeth.
  • Drwy gystadlu, rydych yn nodi mai eich rysáit chi ydyw ac nad yw wedi’i chyhoeddi o’r blaen.
  • Ceidw Awdurdod Harbwr Caerdydd a Jamie’s Italian yr hawl i gyhoeddi’r rysáit fuddugol (gan gynnwys ar gopi caled ac ar-lein) at ddibenion cyhoeddusrwydd a newyddion.
  • Bydd panel o feirniaid, gan gynnwys Cogydd o Jamie’s Italian a chynrychiolydd o Ffederasiwn y Gwerthwyr Pysgod yn dewis y rysáit fuddugol.
  • Bydd yr ystafell dros nos yng ngwesty Future Inns ar gyfer gwely dwbl neu ddau wely sengl, ac yn dibynnu ar argaeledd.
  • Oedran 16+
  • Uchafswm o 2 rysáit gan bob cystadleuydd.
  • Ni chynigir gwobr arian parod neu wobr amgen i’r wobr a nodir, ac ni ellir trosglwyddo’r wobr.

www.cardiffharbour.com


CYFLEUSTERAU

toilets near or on sitefood & drink availabledisabled accessno alcoholno smokingparking nearbyno dogs except guide dogs

WOW

27-29 Awst 2011

Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5AN

Mynediad am Ddim
(codir tâl am ambell weithgaredd)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gŵyl Harbwr Caerdydd

 

cardiff harbour festival