

Bydd Gŵyl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd yn dychwelyd i Fae Caerdydd, gydag arlwy odidog o gawsiau fferm, siocledi blasus, gwirodydd a llawer, llawer mwy i’ch temtio!
Dewch i siopa yn Ffair y Cynhyrchwyr neu Farchnad y Ffermwyr; ymlaciwch ar y Piazza Bwyd neu’r Bar Siampên poblogaidd ar ymyl y dŵr. Gyda cherddoriaeth ac adloniant ar gyfer y teulu dyma un o ddanteithion blasusaf Caerdydd ym misoedd yr haf.
Wrth ymweld â Marchnad y Ffermwyr ar Rhodfa'r Harbwr, beth am alw draw i’r Eglwys Norwyaidd hardd ar ei newydd wedd? Blaswch Wafflau Norwyaidd traddodiadol yn y caffi newydd, Norsk, neu beth am fwynhau gwydraid o Pimms wrth i chi werthfawrogi’r olygfa o’r teras hardd ar lannau’r dŵr. Dyma gyfle gwych i gwrdd â chyflenwyr lleol poblogaidd a fydd yn cynnig blasu gwin a chaws yn Ystafell Grieg ddydd Sadwrn a dydd Sul. Cysylltwch â'r Eglwys Norwyaidd am docynnau.
Adloniant
Mwynhewch raglen amrywiol o adloniant; bydd y gerddoriaeth o'r bandstand yn cynnwys Soul, Jazz, Gwerin, Skiffle a Chanu Gwlad ynghyd â thoreth o adloniant stryd doniol.
Theatr Fwyd John Lewis
Dewch draw i Theatr Fwyd John Lewis a mwynhewch amrywiaeth o arddangosiadau bwyd a gweithdai ymarferol.
Bydd prydau adnabyddus a ryseitiau tymhorol yn cael eu paratoi gan ddefnyddio cynhwysion ffres lleol y mae llawer ohonynt ar gael i’w prynu ar y safle.
Hefyd peidiwch ag anghofio am y gweithdai dyddiol i blant lle gall cogyddion ifanc greu eu prydau bwyd eu hunain.
I gael eich tocynnau am ddim ar gyfer Theatr Fwyd John Lewis, ewch i’r Garafán Wybodaeth ar y diwrnod.
I gyrraedd digwyddiadau Bae Caerdydd
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
8-10 Gorff 2011
DIGWYDDIAD AM DDIM
Codir tâl ar gyfer rhai gweithgareddau
Gwener a Sad
12-5pm
Theatr Fwyd John Lewis
12-7pm
Marchnad y Ffermwyr
12-9pm
Ffair y Cynhyrchwyr a’r Ffair Grefftau
12-10pm
Piazza Bwyd ac Adloniant
Sul
12-5pm
Theatr Fwyd John Lewis
12-7pm
Ffair y Cynhyrchwyr, Marchnad y Ffermwyr,
Ffair Grefft, Piazza Bwyd, Adloniant
Manylion mynediad:
• Parcio i’r anabl gerllaw
• Mynediad Gwastad ledled Plas Roald Dahl
• Toiledau i’r anabl ar y safle