Carnifal MAS Caerdydd

Codir tâl ar gyfer rhai gweithgareddau
 Dyma’r 22ain Carnifal MAS Caerdydd blynyddol, sef “MAGICK: Dr Dee’s World of Wonder” sy’n dod â Chanol Dinas Caerdydd yn fyw gyda channoedd o wisgoedd coegwych a chreadigaethau carnifal, masgiau a phenwisgoedd, pypedau anferth a cherfluniau symudol.

Gwyliwch ddewiniaid, ysbrydion tanllyd, cythreuliaid rhithiol, anturwyr herfeiddiol a rhyfelwyr Indiaidd Cymreig wrth iddynt oll ddawnsio drwy strydoedd Caerdydd i gerddoriaeth y bandiau gyda chyflwyniad i gloi ym Mhenwythnos Mawr Admiral ar lawnt Neuadd y Ddinas.

Yr Orymdaith
11.30am
Bydd yr Orymdaith yn gadael Canolfan y Mileniwm gan fynd i fyny Stryd Bute.

12.30pm
Ar hyd Heol Eglwys Fair, lle bydd yr orymdaith yn stopio am hanner awr i ‘jamio’ yn y stryd.

1.00pm
Parhau i fyny Yr Aes, Heol y Castell, Ffordd y Brenin.

1.30pm
Daw i ben ym Mhenwythnos Mawr Caerdydd Admiral ar Lawnt Neuadd y Ddinas.

PEIDIWCH Â DOD I WELD YN UNIG, CYMERWCH RAN!

Ydych chi am ymuno â'r orymdaith? Dewch draw i gymryd rhan mewn tair wythnos o Weithdai Celf Carnifal AM DDIM.

swica

www.twitter.com/swicawales

www.swica.co.uk
F: 029 2038 2094
E: sf@swica.force9.co.uk


CYFLEUSTERAU

toilets near or on sitefood & drink availabledisabled accessno alcoholno smokingparking nearbyno dogs except guide dogs

Cardiff International Food & Drink Festival

6 Awst 2011

Bae Caerdydd / Y Ganolfan Ddinesig Caerdydd

Mynediad am Ddim

Ffôn: SWICA - 029 2038 2094

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Carnifal MASMAS