

Mae’r arddangosfa hon wedi gwneud argraff fawr ledled y Deyrnas Unedig. Ar ôl dechrau ei thaith yn Llundain, gyferbyn â Tower Bridge, mae wedi bod ar daith yn Leeds, Birmingham, Belfast a thu allan i'r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel.
Ar ôl ymweld â Manceinion, Brighton a Plymouth, bydd yr arddangosfa ryfeddol hon yn ymweld â Chaerdydd a bydd yn cael ei harddangos ar Heol Fawr, a fydd ar ei newydd wedd, drwy gydol mis Gorffennaf.
Bydd y delweddau trawiadol yn dangos sut mae’r Goedwig Boreal hyfryd yng Nghanada yn cael ei dinistrio gan y brys i echdynnu olew o'r tywod tar ychydig o dan yr arwyneb.
Mae Tarnished Earth yn gwrthgyferbynnu’r dinistr a achosir drwy echdynnu olew gyda diffeithwch cyntefig yr ardal a ffordd draddodiadol o fyw’r Cri, y Genedl Gyntaf frodorol.
CYFLEUSTERAU
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
